Math | Etholaeth Senedd y Deyrnas Unedig ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | Dwyrain Lloegr |
Poblogaeth | 99,800 ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Norfolk (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 174.482 km² ![]() |
Cyfesurynnau | 52.684399°N 1.64949°E ![]() |
Cod SYG | E14000186, E14000717, E14001256 ![]() |
![]() | |
Etholaeth seneddol yn Norfolk, Dwyrain Lloegr, yw Great Yarmouth. Dychwela un AS i Dŷ'r Cyffredin yn San Steffan, sef yr ymgeisydd gyda'r nifer fwyaf o bleidleisiau.
Crëwyd yr etholaeth fel bwrdeistref seneddol yn 1295, a hyd at 1868 dychwelodd ddau aelod seneddol. Fe'i difreiniwyd gan Ddeddf Diwygio 1867 ond cafodd ei ail-greu ar gyfer etholiad cyffredinol 1885 fel etholaeth a ddychwelodd un AS. Rhwng 1950 a 1983 disodlwyd y fwrdeistref gan Etholaeth Sirol Yarmouth. Wedyn, ailenwyd yr etholaeth yn Great Yarmouth ac roedd ei ffiniau'n cyd-daro â ffiniau awdurdod lleol Bwrdeistref Great Yarmouth. Mae wedi aros yn ddigyfnewid ers hynny.